Melbourne Aberaeron
Steil a safon, cysur a chroeso. Dyma beth sy'n eich disgwyl ym Melbourne - tŷ mawr braf yng nghanol bwrlwm tref Aberaeron ar lan Bae Ceredigion, tŷ sy'n cynnig llety hunan-ddarpar o safon. Mae Melbourne yn dŷ Sioraidd, pum seren yn cynnig llety gwyliau safonol o fewn tafliad carreg i harbwr lliwgar Aberaeron gyda dewis da o siopau, tafarndai a llefydd bwyta poblogaidd gerllaw.
Lleoliad
Lleolir Aberaeron at yr A487, hanner ffordd rhwng tref prifysgol Aberystwyth yn y gogledd ac Aberteifi yn y de - mae'n gyfleus ar gyfer traethau, mynyddoedd a chefn gwlad Ceredigion ac yn ganolog os am fentro am y dydd i rannau eraill o Gymru.
Funudau yn unig i ffwrdd mae arfordir treftadaeth Ceredigion a thraethau glân bendigedig - nifer ohonynt yn chwifio'r Faner Las Rhyngwladol ac yn enillwyr gwobrau Glan Môr ac Arfordir Gwyrdd. Mae dyfroedd Bae Ceredigion yn gartref i dros 200 o ddolffiniaid trwyn potel ynghyd â morloi, llamhidyddion ac adar môr. Hefyd gerllaw mae plasty a gerddi hyfryd Llanerchaeron a gallwch gerdded yno ar hyd llwybr troed pwrpasol o'r dref.
Gweithgareddau
Gall cerddwyr droedio llwybrau hamddenol trwy gefn gwlad bendigedig yn ogystal â chael mynediad at fynyddoedd a thir uchel Ceredigion. Mae llwybr arfordir Ceredigion ar draws y ffordd - dim ond pum munud i ffwrdd o ddrws ffrynt Melbourne - a chyfle i gerdded i rai o leoliadau glan môr hyfrytaf Cymru - Llangrannog, y Cei Newydd, Tresaith a'r Mwnt.
Dewch â'ch beic i ddilyn llwybrau beicio pwrpasol a ffyrdd cefn gwlad neu rhoi gynnig ar feicio mynydd yn Nant yr Arian. Mae afonydd yr Aeron a'r Teifi gyda'r gorau yng Nghymru ar gyfer pysgota ac mae cwrs golf 18 twll ar gael gerllaw yn Llanrhystud.