Datganiad Hygyrchedd
Lleoliad
Lleolir Melbourne yng nghanol Aberaeron ar ffordd yr A487 sy'n arwain trwy'r dref. Os byddwch yn teithio o'r de, mae Melbourne wedi ei leoli ar ochr dde'r ffordd yn syth ar ôl tafarn y Royal Oak (neu ar y chwith os yn teithio o'r gogledd). Mae'r tŷ wedi ei beintio lliw gwyrdd golau gyda rheilins duon y tu allan i ddrws y ffrynt. Mae siopau, caffis a thai bwyta Aberaeron o fewn munudau o'r tŷ.
Parcio
Fel arfer gellir parcio ar y ffordd fawr yn union y tu allan i ddrws y ffrynt. Mae garej ar gael yng nghefn y tŷ at ddefnydd gwesteion. Ceir mynediad at y garej wrth droi i'r dde i mewn i ffordd Pant y Gôf (rhwng y Royal Oak a Melbourne) ac yna i'r chwith ar hyd lôn gul.
Mynediad i'r tŷ
Mae tri gris i'w dringo at ddrws y ffrynt gyda chymorth canllaw ac mae'r drws yn arwain i mewn i'r cyntedd.
Mae mynediad lefel trwy gefn y tŷ trwy'r gât i mewn i'r ardd gefn. Mae dau fynediad i'r tŷ drwy'r cefn - y ddau ddrws wedi eu codi un gris i fyny o'r ardd.
Cyfleusterau
Mae'r cyntedd, y lolfa a'r ystafell wely llawr daear i gyd ar yr un lefel. Mae un gris rhwng y cyntedd a'r lolfa i mewn i'r gegin ac un gris o'r lolfa trwy ddrws gwydr i mewn i'r ystafell haul.
Mae'r ystafell haul a'r gegin wedi eu huno. Mae amrywiaeth o gypyrddau llawr yn y gegin ynghyd ag oergell, rhewgell a ffwrn ar yr un lefel.
Mae'r lolfa yn ystafell fawr braf gyda digon o olau naturiol. Darperir amrywiaeth o oleuadau trydan. Mae'r teledu, peiriant DVD a'r radio oll yn bell-reoledig.
Mae'r ystafell wely llawr daear yn cynnwys gwely dwbwl a medrir mynd iddo o'r ddwy ochr. Mae dwy ystafell wely fawr arall ar y llawr cyntaf - un dwbwl ac un twin - gyda mynediad at bob gwely o'r ddwy ochr.
Mae ystafell ymolchi ar y llawr daear yn cynnwys toiled, basn ymolchi a chawod. Mae'r prif ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf ac ynddi ceir toiled, basn ymolchi, bath a chawod ar wahân.
Mae'r ardd gefn i gyd ar un lefel gyda llwybrau concrid, cerrig a cherrig mân yn arwain o gwmpas amrywiaeth o lwyni. Amgylchynnir yr ardd gan wal gerrig uchel. Gellir mynd at y garej o'r ardd.
Cŵn tywys a chlywed
Croesewir cŵn tywys a chlywed
Cludiant cyhoeddus
Mae gwasanaeth bws i'r de a'r gogledd ar gael o fewn 100m o'r tŷ.
Rhwydweithiau ffôn symudol
Mae'r mwyafrif o gwmnïau ffôn yn cynnig gwasanaeth yn Aberaeron.