Amodau a Thelerau
- Rhaid talu blaendal o £100 er mwyn sicrhau'r llety.
- Nid ad-delir y blaendal os yw'r gwyliau'n cael ei ganslo gan yr ymwelydd o fewn chwech wythnos o ddechrau'r gwyliau.
- Mae'r balans yn ddyledus un mis calendr cyn dechrau'r gwyliau.
- Rhaid talu bond ar ffurf siec arall am £100 i'n digolledu am unrhyw golledion neu ddifrod. Ni fydd y siec hwn yn cael ei dalu i'r banc ac fe'i ddychwelir ar ddiwedd y gwyliau os yw popeth yn iawn.
- Mae'r llety yn cael ei osod o Sadwrn i Sadwrn a cheir mynediad ar ôl 4pm ar y Sadwrn cyntaf. Rhaid gadael erbyn 10.30am y Sadwrn canlynol. Weithiau gellir cyrraedd a gadael y tu allan i'r oriau uchod os gwneir trefniadau ymlaen llaw.
- Gofynnir i westeion adael y llety mewn cyflwr glân a thaclus. Codir tâl am unrhyw ddifrod neu eitemau coll.
- Noder nad yw Melbourne yn derbyn ysmygwyr.
- Ni fedrwn dderbyn anifeiliaid anwes.
Polisi preifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae unrhyw fanylion y casglwn amdanoch chi ac sydd wedi eu darparu gennych, yn ein galluogi i anfon gwybodaeth atoch gall fod o ddiddordeb i chi. Trwy ddarparu gwybodaeth i ni, 'rydych yn cytuno i ni ei brosesu at y diben uchod. Ni fydd Melbourne Aberaeron yn trosgwlyddo'r wybodaeth i drydydd person.