Ystafelloedd Melbourne
Ers 2005 mae Melbourne wedi bod yn croesawu ymwelwyr o Gymru a thu hwnt - hwythau'n mwynhau llety cyfforddus sy'n gyfuniad o'r traddodiadol a'r cyfoes. Mae nifer ohonynt yn ymwelwyr cyson erbyn hyn ac yn dewis dod nôl i dreulio'u gwyliau ym Melbourne blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Mae gennym dair ystafell wely braf, pob un wedi ei dodfrenu'n chwaethus mewn dull traddodiadol sy'n gweddu cyfnod y tŷ. Mae dwy ystafell ddwbwl - un ar y llawr cyntaf gyda chyfleusterau ymolchi preifat a theledu - a'r llall ar y llawr isaf ac yn berffaith er mwyn osgoi dringo grisiau. Mae'r stafell twin ar y llawr cyntaf yn fferfyn gyda phlant. Gwnawn yn siwr bod y gwelyau yn barod ar gyfer ein gwesteion bob amser.
Mae'r brif ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf ac mae ynddi fath a chawod ar wahân a rhielen boeth at gyfer tywelion. Yn ogystal, mae ystafell gawod a thoiled ar y llawr isaf. Darperir tywelion a sebon ar gyfer pob gwestai.
Mae'r lolfa yn ystafell fawr braf a chysurus ac ynddi cewch flas o nodweddion traddodiadol y tŷ - ffenestri mawrion, lle tân urddasol, lluniau lleol a llestri a chrochenwaith cain. Mae ynddi deledu, peiriant DVD, radio a chwaraewr CD a llond cwpwrdd o lyfrau addas at pob oed a diddordeb. Mae'r lolfa yn arwain at ystafell haul yng nghefn y tŷ - lle da i eistedd a mwynhau paned neu gadw cwmni i'r sawl sy'n coginio yn y gegin drws nesaf.
Mae'r gegin fodern a'r ystafell olchi yn cynnwys ffwrn a hob drydan, meicrodon, peiraint golchi llestri, oergell, rhewgell, peiriant golchi dillad a pheiriant sychu ynghyd â phob math o offer cegin.
Gwnawn yn siwr bod basgedaid o fwydydd wedi eu cynhyrchu'n lleol ar gael i groesawu gwesteion bob wythnos.
Yng nghefn y tŷ mae gardd breifat sy'n dal yr haul trwy gydol y dydd. Dyma lle gallwch ymlacio a mwynhau diod a barbeciw tra bo'r plant yn chwarae'n ddiogel. Mae digon o le yn y garej sydd yng nghlwm wrth yr ardd ar gyfer storio beiciau ac offer arall.
Mae croeso i blant o bob oed ym Melbourne - mae gennym got a chadair uchel yn ogystal â llestri a chyllyll a ffyrc, teganau a llyfrau ar eu cyfer.